Mae cwmni Valero wedi dweud eu bod nhw’n disgwyl i’r gwaith o glirio cerosin oddi ar yr A48 yn Sir Gaerfyrddin ddod i ben yn brydlon ddydd Llun.

Fe fu rhannau o’r ffordd ynghau wrth i weithwyr fynd ati i glirio’r olew oddi ar y ffordd ger Nant-y-caws.

Roedd y gwaith clirio’n fwy na’r disgwyl ar y dechrau ar ôl i oddeutu 140,000 tunnell o olew ollwng, gan orlifo i mewn i Nant Pibwr gan ladd nifer sylweddol o bysgod.

Roedd gwleidyddion wedi mynegi pryder fod y gwaith atgyweirio’n niweidio’r economi leol.