Mynwent Aderfan (o wefan Wikipedia CC BY-SA 2.0)
Bydd baneri’r Cynulliad yn chwifio ar hanner mast ddydd Gwener nesaf fel arwydd o barch i’r rhai a fu farw yn nhrychineb Aberfan.

Bydd munud o dawelwch hefyd yn cael ei gynnal ar ddechrau busnes y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher i nodi 50 mlynedd ers y digwyddiadau trasig yn y pentref glofaol a achosodd i 144 o bobl, gan gynnwys 116 o blant, golli eu bywydau.

Bydd llyfr o gydymdeimlad yn cael ei agor yn y Senedd ddydd Llun er mwyn i ymwelwyr fyfyrio ar y digwyddiadau yn 1966. Bydd y llyfr hwn yn cael ei osod wrth ymyl un o’r llyfrau coffa swyddogol sy’n cynnwys enw pawb a gollodd ei fywyd yn Aberfan.

Dywedodd Elin Jones AC, y Llywydd: “Dyma drasiedi a oedd yn sioc i’r byd.

“Mae’n briodol bod senedd Cymru yn nodi 50 mlynedd ers y trychineb hwn, ond rydym yn ymwybodol bod y gymuned yn Aberfan yn byw gyda’r drasiedi bob dydd.

“Mae cadernid y gymuned yn Aberfan yn wyneb adfyd yn dyst i rym gobaith hyd yn oed mewn trasiedi.”

Bydd digwyddiad coffaol hefyd yn cael ei gynnal yn y Senedd ar ddydd Mercher a fydd yn cynnwys adrodd cerddi a ysgrifennwyd mewn ymateb i ffotograffau I.C. Rapoport yn 1966.

Yn ogystal ag arddangosfa yn y digwyddiad coffa, bydd arddangosfa ddigidol o’r lluniau a dynnwyd yn fuan ar ôl y trychineb gan Chuck Rapoport, y ffotograffydd Americanaidd, sydd â’r teitl: “Aberfan – Atgofion ffotonewyddiadurwr” yn cael ei harddangos yn Oriel yr Arwyr yn y Pierhead drwy’r wythnos nesaf.