Fe fu cynnydd yng Nghymru yn nifer yr ymwelwyr tramor a ddaeth i Gymru yn chwe mis cyntaf 2016 a chynnydd yn eu gwariant o gymharu â’r cyfnod cyfatebol y llynedd.

Mae’r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol, gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn dangos i Gymru groesawu 450,000 o deithwyr tramor yn chwe mis cyntaf 2016, cynnydd o 15% ar chwe mis cyntaf 2015.

Hwn oedd y cynnydd mwyaf yn holl wledydd y Deyrnas Unedig.

Mae’r ffigurau’n dangos hefyd bod gwariant ymwelwyr tramor â Chymru wedi cynyddu mwy na 8%.

O Ewrop y daeth rhyw 75% o’r ymwelwyr rhyngwladol â Chymru a’r DU yn gyfan yn hanner cynta’r flwyddyn.  Daeth cyfanswm o 338,000 o ymwelwyr o Ewrop i Gymru, sy’n 17% yn uwch nag yn chwe mis cyntaf 2015.  Roedd nifer yr ymwelwyr o Ogledd America â Chymru (54,000) hefyd yn uwch – 10% – o’i gymharu â chwe mis cyntaf 2015.

Fe ddigwyddodd y cynnydd cyn y gostyngiad yng ngwerth y bunt yn sgil y bleidlais Brexit ar 23 Mehefin.

Croesawu’r twf

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates: “Dyma newyddion aruthrol i Gymru.

“Mae’n amlwg bod ein penderfyniad i dargedu marchnadoedd allweddol yn talu ar ei ganfed ac rydym ar drywydd gwireddu’r nod o ddiwydiant twristiaeth fydd wedi tyfu 10% erbyn 2020.

“Â’r Flwyddyn Antur yn prysur ddod i’w therfyn, rydym wrthi’n paratoi i hyrwyddo Cymru yn 2017, Blwyddyn y Chwedlau.”