Neuadd Pantycelyn (llun: Prifysgol Aberystwyth)
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi penodi penseiri i weithio ar gynlluniau manwl i ailddatblygu neuadd Pantycelyn.

Bydd penseiri Cymraeg o gwmni Lawray, sydd â swyddfeydd yng Nghaerdydd a Wrecsam, yn gyfrifol am y cam nesaf yn y cynlluniau datblygu ar gyfer y prosiect £10m i ddarparu 200 o ystafelloedd en-suite ar gyfer myfyrwyr ynghyd â darpariaeth arlwyo. Mae gofodau cymdeithasol a chyfleusterau at ddefnydd myfyrwyr a’r gymuned leol hefyd yn rhan o’r cynlluniau.

Fel rhan o’r cytundeb, bydd Lawray yn paratoi cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig ar gyfer Pantycelyn a adeiladwyd yn 1953 ac sy’n adeilad rhestredig Gradd II.

Bydd y gwaith a wneir gan Lawray yn caniatáu i’r Brifysgol symud ymlaen i gyflwyno cais a sicrhau caniatâd cynllunio, yn ogystal â chael manyleb fanwl ar gyfer y broses o dendro am gontractwyr i ymgymryd â’r gwaith ym Mhantycelyn.

Dywedodd Is-Ganghellor Dros Dro Prifysgol Aberystwyth, yr Athro John Grattan: “Mae’r cyhoeddiad hwn yn golygu ein bod yn cadw at yr amserlen a osodwyd ar gyfer ailagor yr adeilad erbyn mis Medi 2019. Tra bo penseiri Lawray yn symud ymlaen â’r cynlluniau pensaernïol, byddwn ni’n parhau i ganolbwyntio ar y cyllid er mwyn sicrhau fod pob dim yn ei le.”

Mae swyddfeydd Undeb Myfyrwyr Cymru Aberystwyth UMCA ym Mhantycelyn ar hyn o bryd ac fe ddywedodd y Llywydd, Rhun ap Dafydd: “Mae hyn yn newyddion calonogol iawn ac mae UMCA yn edrych mlaen at gydweithio gyda’r penseiri er mwyn siapio Pantycelyn at y dyfodol.”