Mae Plaid Cymru wedi galw am is-etholiad yn Nwyfor Meirionydd wedi i Dafydd Elis-Thomas adael grŵp y blaid yn y Cynulliad.

Cyhoeddodd ei fod am adael Plaid Cymru mewn cyfarfod etholaeth ym Mhorthmadog heddiw.

Fe fydd yr AC, sydd wedi bod yn y Cynulliad ers ei sefydlu yn 1999, yn eistedd fel aelod annibynnol.

Dywedodd Plaid Cymru y bydd y blaid yn dechrau’r broses o ddewis ymgeisydd newydd.

“Fe fydd etholwyr, a gamarweinwyd gan Dafydd Elis-Thomas yn ystod yr etholiad Cynulliad diweddar, yn disgwyl is-etholiad cyn gynted a bo modd,” meddai’r datganiad.

Trydarodd Rhun ap Iorwerth yn fuan wedi’r cyhoeddiad: “Bydd disgwyl is-etholiad buan yn Nwyfor Meirionydd wedi i Dafydd adael Plaid Cymru. Bydd etholwyr yn teimlo eu bod nhw wedi eu camarwain.”

Nid yw Dafydd Elis-Thomas ac arweinydd y blaid, Leanne Wood, wedi cyd-dynnu yn wleidyddol. Daw ei benderfyniad i adael y blaid wythnos yn unig cyn eu cynhadledd yn Llangollen.

Mae ei benderfyniad i adael y blaid yn golygu fod ganddyn nhw’r un nifer o Aelodau Cynulliad a’r Ceidwadwyr, sef 11.

Rhagor i ddilyn…