Bydd gwesty Premier Inn yn agor yn Aberystwyth fis nesa’ gan greu 26 o swyddi yn lleol a chyflogi 12 o bobol leol oedd heb waith ynghynt.

Mae gan y gwesty gwerth £6 miliwn 64 o stafelloedd ac mae wedi ei leoli ar lan y môr ac yn wynebu Bae Ceredigion.

Dywedodd Paul Brooks, un o reolwyr Premiere Inn: “Fedrwn ni ddim aros i roi croeso cynnes i’n gwesteion yn ein gwesty newydd yn Aberystwyth ac ein gobaith yw dod yn rhan gwerth chweil a llwyddiannus o’r gymuned wych sydd yma.”

Premier Inn yw’r gadwyn fwyaf o westai yng ngwledydd Prydain, gyda 740 o westai ar hyd a lled yr ynysoedd hyn. Y nod yw darparu 85,000 o stafelloedd gwely erbyn 2020.