Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd trethi ar ail gartrefi yn codi ar ôl i’r dreth stamp gael ei datganoli ym mis Ebrill 2018.

Bydd 3% yn ychwanegol o drethi ail gartrefi’n mynd at gyfraddau’r dreth stamp, gyda chyfradd debyg yn yr Alban hefyd.

Mae’r amcangyfrifon yn dangos y gallai hyn godi £9 miliwn yng Nghymru rhwng 2016 a 2017 ac yn codi eto i £14 miliwn yn 2020-21.

Mae’r Llywodraeth yn dweud  bod cadw’r gyfradd uwch yn cynhyrchu refeniw hanfodol ar gyfer ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Yn ôl canlyniadau ymgynghoriad y Llywodraeth dros yr haf ar sut gall y gyfradd uwch, daeth sawl ymateb i ystyried effaith tai gwag a sut mae modd eu defnyddio eto i greu tai fforddiadwy.

Ar ôl ei datganoli yn 2018, y dreth trafodiadau tir fydd yn disodli’r dreth dir y dreth stamp.

Mae Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig [Cymru] yn mynd drwy’r Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd, gyda disgwyl i’r Llywodraeth gynnig newidiadau iddo yn ystod y trafod.

“Manteisio ar y cyfle”

“Mae’n bwysig ein bod yn manteisio ar y cyfle sy’n cael ei greu wrth ddatganoli trethi i ystyried a yw’n bosibl gwneud newidiadau i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd, a chreu ffocws ar anghenion a blaenoriaethau pobl Cymru,” meddai Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid Cymru.

“Byddwn yn parhau i bwyso a mesur yr awgrymiadau a gafodd eu cynnig gan randdeiliaid ar sut y byddai modd addasu’r gyfradd uwch hon drwy is-ddeddfwriaeth i’w gwneud yn gydnaws ag amgylchiadau Cymru.”