Mark Williams yw Arweinydd Lib Dems Cymru
Bydd cynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn Wrecsam y penwythnos hwn, gyda disgwyl i’r arweinydd, Mark Williams, feirniadu Llywodraeth Prydain am greu “hinsawdd o ofn”.

Dyma fydd cynhadledd gyntaf y blaid yng Nghymru ers i Mark Williams, unig Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ddod yn arweinydd a llenwi esgidiau’r Aelod Cynulliad Kirsty Williams.

Mae disgwyl I Mark Williams ddweud yn ei araith yfory y bydd ei blaid yn “cyflwyno’r achos am onestrwydd, goddefgarwch ac undod”.

Bydd yn beirniadu “dogmatwyr yn Whitehall sy’n parhau i greu hinsawdd o ofn” ac yn cyhuddo Llafur fel gwrthblaid o fod â mwy o ddiddordeb ym “mrwydrau’r 1980au… yn hytrach nag ymladd dros ein gwlad a’n cymunedau”.

“Rhethreg eithafol”

Bydd hefyd yn cyfeirio at “rethreg eithafol ” y Ceidwadwyr am “bobol wedi’u geni yn rhywle arall”, ac mae hyn yw’r “norm” yng Ngwledydd Prydain erbyn hyn.

“Lle mae pobol sy’n cael eu geni’n rhywle arall yn cael eu gweld fel ddim byd mwy na chardiau i’w defnyddio mewn trafodaethau â gweddill y byd. Mae’r math o iaith sy’n cael ei defnyddio gan wleidyddion yn y wlad hon yn fy nghythruddo i.”

Fe ddaeth Mark Williams yn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ar ôl i’w ragflaenydd, Kirsty Williams, roi’r gorau iddi yn dilyn perfformiad siomedig yn etholiadau’r Cynulliad eleni.

Collodd y blaid pob un ond un o’i seddi ym Mae Caerdydd a dim ond wyth Aelod Seneddol sydd ganddi yn San Steffan.

“Gwir angen rhyddfrydwyr”

Bydd disgwyl i Mark Williams ddweud yn Wrecsam hefyd bod “gwir angen rhyddfrydwyr i sefyll i fyny, chwarae eu rhan ac ymladd dros y gwerthoedd a’r credoau sy’n annwyl iddyn nhw.

“Os nad ydyn ni’n cyflwyno’r achos dros onestrwydd, goddefgarwch ac undod, os nad ydyn ni’n sefyll yn erbyn y sawl sy’n galw am waliau i’w gael eu codi a phontydd i’w gael eu tynnu o weddill y byd, fydd neb arall yn.

“Byddwn yn ymladd pob etholiad gyda neges bositif o onestrwydd, goddefgarwch ac undod. Dim ond wedyn y byddwn ni’n ymladd yn erbyn y don gynyddol o anoddefgarwch yn ein gwleidyddiaeth ni.”