Jeff Smith ac ymgyrchwyr Pantycelyn
Mae myfyrwyr Cell Pantycelyn wedi penderfynu gohirio protest ynghylch dyfodol Neuadd Breswyl Pantycelyn yn dilyn cyfarfod cadarnhaol gydag uwch swyddogion Prifysgol Aberystwyth heddiw.

Roedd y myfyrwyr yn pryderu ynghylch yr ansicrwydd am ddyfodol y neuadd.

Ond bellach maen nhw’n hapus gyda’r atebion ynghylch yr amserlen ar gyfer dyfodol y neuadd Gymraeg.

Dywedodd Jeff Smith, aelod o’r Gell a fu yn y cyfarfod: “Dw i’n falch ein bod wedi cael addewid o amserlen o’r prif gamau allweddol i ail-agor y neuadd erbyn 2019, a bod swyddogion y brifysgol wedi addo cyfathrebu yn well gyda’r myfyrwyr a’r cyhoedd ar yr adeg dyngedfennol hon. Dyna rywbeth sydd wedi bod ar goll – a thynnu sylw at hynny oedd y bwriad yn y brotest roedden ni wedi ei threfnu yn ystod diwrnod agored y Brifysgol yfory.”

Dywedodd Manon Elin, a fu hefyd yn cynrychioli’r Gell yn y cyfarfod: “Rydyn ni’n teimlo fod y cyfarfod wedi bod yn un buddiol iawn, gyda sicrwydd fod Pantycelyn ymhlith tair prif flaenoriaeth cyllido’r Brifysgol. Bydd cyfle gan y myfyrwyr newydd y flwyddyn nesaf i fyw yn neuadd Pantycelyn yn ystod eu trydedd flwyddyn, felly gobeithiwn y bydd y sicrwydd yma yn arwain at gynnydd yn nifer y myfyrwyr fydd yn dod i brofi cymuned Gymraeg y Brifysgol ym Mhantycelyn. Fyddwn ni ddim yn cynnal unrhyw ddigwyddiad yfory felly, ond byddwn ni’n parhau i gadw llygad ar y Brifysgol i sicrhau eu bod yn cadw at yr amserlen.”

Penseiri Panti

Yn y cyfamser, mae Prifysgol Aberystwyth wedi penodi tîm o benseiri cyfrwng Cymraeg i weithio ar gynlluniau manwl i ailddatblygu Neuadd Pantycelyn.

Penseiri Lawray, sydd â swyddfeydd yn Llundain, Caerdydd a Wrecsam, sydd wedi cael y cytundeb i wneud y gwaith ar Bantycelyn yn dilyn “proses dendro gystadleuol”.

Bydd y cwmni’n gyfrifol am y cam nesaf yn y cynlluniau datblygu ar gyfer y prosiect £10m i ddarparu 200 o ystafelloedd en-suite ar gyfer myfyrwyr ynghyd â darpariaeth arlwyo. Mae gofodau cymdeithasol a chyfleusterau at ddefnydd myfyrwyr a’r gymuned leol hefyd yn rhan o’r cynlluniau.

Bydd angen i Lawray baratoi cais am Ganiatâd Adeilad Rhestredig er mwyn cael caniatâd cynllunio i wneud y gwaith.

Yn ôl y Brifysgol, mae’r cyhoeddiad yn golygu cadw at yr amserlen a osodwyd ar gyfer ailagor yr adeilad erbyn mis Medi 2019.

Mae swyddfeydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth UMCA ym Mhantycelyn ar hyn o bryd ac fe ddywedodd y Llywydd, Rhun ap Dafydd: “Mae hyn yn newyddion calonogol iawn ac mae UMCA yn edrych ’mlaen at gydweithio gyda’r penseiri er mwyn siapio Pantycelyn at y dyfodol.”