O heddiw ymlaen, mae modd prynu cig oen o Gymru yn 29 o archfarchnadoedd Aldi yn ne a gorllewin Cymru.
Mae’r cwmni wedi ymrwymo i werthu dim ond cig oen o Gymru ar adegau pryd mae ar gael, ac mae ‘na fwriad i ehangu’r cynnyrch i siopau yn y gogledd a’r dwyrain hefyd.
Mae’r newyddion wedi cael ei groesawu gan yr undebau ffermwyr a chan Hybu Cig Cymru hefyd, sy’n dweud bod yr ymrwymiad hwn yn un “bwysig”, gyda’r galw am gig oen lleol yn “tyfu.”
“Mae Hybu Cig Cymru yn gweithio gyda’r archfarchnadoedd i gyd i wneud yn siŵr bod cynifer o gynnyrch cig coch Cymru â phosib yn eu siopau nhw,” meddai Owen Roberts o Hybu Cig Cymru.
“Mae hon yn sector o’r farchnad sy’n tyfu ac mae’n sector sydd yn edrych nawr i wneud mwy o ymrwymiad i fwyd lleol felly mae e’n newyddion gwych i ffermwyr yng Nghymru bod cwmni fel Aldi wedi gwneud yr ymrwymiad yma i gynnyrch o safon fel cig oen Cymru.
“Mae e wedi brandio’n Gymreig gyda’r label PGI [Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig]. Mae hwn yn ymrwymiad pwysig,” meddai wedyn.
Hyder mewn cyfnod ansicr
Yn ôl Wyn Evans o NFU Cymru, mae’r ffaith bod mwy a mwy o archfarchnadoedd yn dewis gwerthu cig oen Cymru yn dangos “hyder” yn y cynnyrch.
“Mae’n amser ansicr [i ffermwyr], ac i gael newyddion da fel hyn, mae e’n rhoi rhywbeth positif i ni i edrych ‘mlaen amdano.”