Mae Amgueddfa Cymru wedi gwneud hi’n glir bod ganddyn nhw bryderon “mawr” dros gynlluniau posib i uno elfennau masnachol Cadw a’r Amgueddfa.

Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Diwylliant y Cynulliad, fe ddywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru y gallai’r uno arwain at “gymhlethdod” a’i fod yn “bryder difrifol”.

Mae gan Lywodraeth Cymru fwriad i sefydlu corff ‘Cymru Hanesyddol’ fel cynllun i wneud sefydliadau treftadaeth yn fwy sefydlog yn ariannol.

Byddai elfennau masnachol y ddau gorff – Cadw ac Amgueddfa Cymru yn dod dan y corff newydd hwn.

“Dyw e ddim yn gyfrinach bod gennym ni bryderon am rai o’r cynigion sydd, mae’n debyg ar y bwrdd a hefyd rydym yn teimlo bod ‘na ffyrdd adeiladol ymlaen a gallai gael eu cymryd gan y sector treftadaeth a’r sector diwylliant yn ehangach,” meddai David Anderson dydd Mercher.

Arwain at “gymhlethdod”

Defnyddiodd dod o hyd i olion deinosor ar draeth Penarth ddechrau’r flwyddyn fel enghraifft, gan awgrymu y byddai wedi bod yn fwy anodd cynnal gweithgareddau am y canfyddiad pe bai’n rhaid iddyn nhw fynd drwy Gymru Hanesyddol yn gynta’.

Byddai hynny “wedi gorfod cael ei drafod â Chymru Hanesyddol os byddai’n cael cyfrifoldeb yn y meysydd hynny,” meddai.

“Ac mae cymhlethdod hynny ac mewn llawer o ffyrdd diffyg awdurdod yr amgueddfa, a fydd yn dibynnu ar gorff arall i wneud neu gymeradwyo rhai o’r pethau hynny, yn bryder difrifol.”

“Pwysau mawr” ar yr Amgueddfa

Mae cyllideb Amgueddfa Cymru wedi cael ei thorri 33% mewn termau real ers 2010, ac mae hynny’n golygu “bod pwysau enfawr ar y sefydliad”, yn ôl David Anderson.

Mae llawer o streiciau wedi cael eu cynnal gan weithwyr yr Amgueddfa ledled Cymru mewn anghydfod dros leihau eu taliadau premiwm am weithio ar benwythnosau.

Fe sicrhaodd Llywodraeth Cymru fwy o arian i’r Amgueddfa allu barhau i dalu’r taliadau premiwm ac felly daeth y streicio i ben ym mis Mehefin eleni.

Mae modd darllen mwy am y cynlluniau posib i uno CADW ac Amgueddfa Cymru yn rhifyn wythnos hon o gylchgrawn Golwg. Dydi Llywdoraeth Cymru ddim yn gwneud sylw ar y mater ar hyn o bryd.