Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd
Mae’r Tŷ’r Cyffredin wedi clywed achos mam i bedwar o blant o Bwllheli sydd wedi treulio bron i bum mlynedd yn ceisio cael caniatad i ddod a’i gŵr o Dwrci adref i Gymru.

Mae Hayley Aldirmaz wedi bod yn briod â Hasan Aldirmaz ers pedair blynedd ac mae ganddyn nhw ddau blentyn ifanc, ond yn gynharach eleni fe wrthodwyd iddo gael fisa ar y sail nad yw hi’n ennill digon o gyflog.

Fe fuodd ei Haelod Seneddol lleol Liz Saville Roberts yn brwydro ei rhan heddiw, gan alw ar y Prif Weinidog David Cameron i newid y drefn.

Dywedodd wrth ei chyd-aelodau bod y rheolau fisa presennol yn “gwahaniaethu yn erbyn pobol ar sail lle maent yn byw” gan fod cyfleoedd gwaith yn amrywio’n sylweddol ar draws gwledydd Prydain.

Y gyfraith

Mae polisi’r Swyddfa Gartref a gyflwynwyd yn 2012 yn dweud fod rhaid i ddinasyddion Prydeinig ennill mwy na £18,600 y flwyddyn cyn i gymar o du allan i Ewrop fedru dod i fyw atyn nhw.

Cymorthydd meithrin yw Hayley wrth ei gwaith, ac nid yw hi’n cyrraedd y trothwy hwn.

Mae eu dau blentyn mewn addysg llawn amser ond nid yw’r teulu yn medru fforddio teithio i Dwrci yn ystod cyfnod gwyliau brig – sy’n golygu y bydden nhw’n treulio’r Nadolig ar wahan am y tro cyntaf.

Dywedodd Liz Saville Roberts AS yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog: “Maent wedi bod hefo’u gilydd ers deng mlynedd ac yn briod ers pedair, gyda dau blentyn ifanc…mae’n amlwg eu bod mewn perthynas hir-dymor.

“Fe enillodd hanner y gweithlu llawn amser yn Nwyfor Meirionnydd £293 yn unig yr wythnos neu lai flwyddyn diwethaf. Cymharwch hyn ac etholaeth y Prif Weinidog, ble mae cyfartaledd y cyflog yn £571 a bron i £30,000 y flwyddyn.”

Gwahaniaethu yn erbyn merched

Yn ychwanegol at wahaniaethu ar sail lleoliad, bu Liz Saville Roberts hefyd yn dadlau bod y gyfraith yn gwahaniaethu yn erbyn merched.

“Mae llawer o unigolion sy’n gweithio’n galed, llawer ohonynt yn ferched, hefo swyddi pwysig fel cymorthyddion dosbarth neu ofalwyr, yn methu cyrraedd y rhiniog incwm yma,” meddai.

“Mae’r rheolau yn gwahaniaethu yn erbyn merched, ynghyd â llawer iawn o weithwyr llawn amser yn Nwyfor Meirionnydd. Mae’r rheolau yn stacio yn erbyn y rhai ar gyflogau isel, tra bod y rhai ar gyflogau uwch yn cael eu trin yn fwy ffafriol unwaith eto.”