Yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams Llun: Gwefan y Democratiaid Rhyddfrydol
Fe fydd myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd sy’n gwneud cais i un o brifysgolion Cymru ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn gymwys i gael benthyciadau a grantiau.

Dyna gyhoeddiad yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, yn y Senedd heddiw, a hynny er gwaethaf yr ansicrwydd wedi pleidlais Brexit.

Dywedodd y bydd gwladolion yr Undeb Ewropeaidd (UE) sydd eisoes yn cael benthyciadau gan Gyllid Myfyrwyr Cymru a’r rhai sy’n bwriadu dechrau astudio ym mlwyddyn academaidd 2017/18 yn parhau i dderbyn cymorth ariannol.

“Rydyn ni am wneud yn siŵr bod prifysgolion Cymru yn parhau i ddenu’r goreuon o bob rhan o’r UE er gwaethaf yr ansicrwydd yn dilyn pleidlais Brexit,” meddai Kirsty Williams.

‘Cenedl groesawgar’

Dywedodd Kirsty Williams fod y cyhoeddiad yn rhoi sicrwydd o ran cyllid i brifysgolion a cholegau yng Nghymru ynghyd ag i’r darpar fyfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd.

“Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o warchod enw da Cymru fel lle cyfeillgar a goddefgar i astudio a gwneud ymchwil o safon fyd-eang,” meddai.

“Beth bynnag yw goblygiadau hirdymor y bleidlais, rydyn ni’n parhau i fod yn genedl groesawgar sy’n edrych tuag allan. Rydyn ni’n benderfynol o rannu gwybodaeth ar draws ffiniau cenedlaethol.”