Llun: PA
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn dod â’r cynllun ‘Cymunedau’n Gyntaf’ i ben yn raddol.

Mae ‘Cymunedau’n Gyntaf’ yn gynllun gwrthdlodi sydd wedi cefnogi pobol mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru dros y 15 mlynedd diwethaf.

Ond yn ôl Carl Sargeant mae angen cynllun newydd, am nad yw o’r farn mai “parhau i ganolbwyntio ar 52 o ardaloedd bach yw’r ffordd fwyaf effeithiol o gyflawni ar ran Cymru.”

Ei obaith felly yw sefydlu dull newydd gan ganolbwyntio ar gefnogi tri maes allweddol – cyflogaeth, y blynyddoedd cynnar a grymuso.

Cyflogaeth, blynyddoedd cynnar a grymuso

“O ran Cyflogaeth, rydw i eisiau gweld cymunedau lle mae swyddi ar gael a phobol sydd â’r sgiliau a’r gefnogaeth gywir i’w llenwi,” meddai Carl Sargeant.

“Rydyn ni wedi gwneud ymrwymiad mawr i Esgyn a Chymunedau am Waith, a gallaf gadarnhau y bydd y rhaglenni cyflogaeth bwysig hyn yn parhau i redeg.”

Ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar, dywedodd ei fod am weld mwy yn cael ei wneud i “amddiffyn plant rhag effaith Profiadau Niweidiol Mewn Plentyndod, sy’n fygythiad sylweddol i lesiant a ffyniant economaidd.”

Ac o ran Grymuso, “rydw i eisiau i gymunedau cryf gael seilwaith lleol cadarn ac arweinyddiaeth gref a chynhwysol,” meddai.

“Rhaid i Awdurdodau Lleol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) ymgymryd â’r rôl arwain hon nawr. Byddaf yn ymgysylltu â nhw, eu herio a’u cefnogi i lwyddo yn y gwaith.”

‘Newyddion gwych’

Mae Pennaeth Achub y Plant Cymru, Mary Powell-Chandler, wedi croesawu’r cyhoeddiad gan ddweud:

“O’n profiad ni, gwyddwn fod teuluoedd sy’n byw mewn cymunedau difreintiedig yn wynebu heriau cymhleth a niferus. Awgrymodd ein hymchwil gyda theuluoedd a darparwyr gwasanaethau yng Nghymru, yr angen am ddatrysiad integreiddiedig, wedi ei seilio ar leoliad.

“Mae hyn felly yn newyddion gwych. Credwn y gall Ardaloedd Plant, fel rhan o gyflenwi’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ddarparu newid cynaliadwy, hirdymor a phositif ar gyfer teuluoedd a phlant sy’n byw yng Nghymru,” meddai wedyn.

‘Trin symptomau tlodi – nid ei achosion’
“Mae’n wir fod darpariaeth y Llywodraeth o ‘Cymunedau’n Gyntaf’ yn anghyson ar y gorau,” meddai Bethan Jenkins, llefarydd Plaid Cymru ar Gymunedau wrth ddweud y dylai’r gwasanaethau gael eu harchwilio’n gyson.

“Mae’r etifeddiaeth o dlodi sydd wedi’i achosi’n bennaf o ganlyniad i gael gwared a diwydiannau’r wlad hon yn creu problemau sylweddol sy’n dal i aros gyda ni dros hanner canrif wedi i’r broses ddechrau,” meddai.

“Rwy’n poeni ein bod yn trin symptomau tlodi ac nid ei achosion. Nid yw hynny’n golygu nad yw ‘Cymunedau’n Gyntaf’ wedi gwneud gwaith da. Ond os mai’r nod yw dileu tlodi, yna mae angen i’r Llywodraeth gyflwyno syniadau newydd,” meddai gan ddweud y bydd Plaid Cymru’n cadw llygad barcud ar y cynllun a ddaw yn lle’r cynllun hwn.