Andrea Lewis
Mae dedfryd dyn a blediodd yn euog i ddynladdiad dynes yng Nghastell-nedd wedi cael ei chynyddu o wyth i 12 mlynedd dan glo.

Yn y Llys Apêl heddiw, cafodd dedfryd lymach ei dyfarnu i Rhys Hobbs, 44 oed, am ddynladdiad Andrea Lewis, 51 oed, ar ddiwedd mis Ionawr eleni.

Yn Llys y Goron Abertawe ym mis Gorffennaf, fe blediodd y gŵr yn euog o ddynladdiad Andrea Lewis oedd yn fam i ddau o blant.

Daethpwyd o hyd i’w chorff yn gleisiau i gyd, mewn tŷ yn Fairyland Road, Tonna ar Ionawr 30.

Clywodd y llys bryd hynny bod y ddau mewn perthynas, a bod trais yn y cartref wedi arwain, yn y diwedd, at ei marwolaeth.

Fe benderfynodd y Llys Apêl nad oedd y ddedfryd wreiddiol yn ddigon llym.