Ty'r Arglwyddi Llun: PA
Fe gafodd Mesur Cymru ei feirniadu yn Nhŷ’r Arglwyddi neithiwr am beidio â mynd ‘yn ddigon pell’ i ehangu pwerau’r Cynulliad ym Mae Caerdydd.

Mae’r Mesur yn ymwneud â phwerau o ran ynni, trafnidiaeth a’r amgylchedd ymhlith eraill ac, yn ôl yr Arglwydd Bourne o Aberystwyth, byddai’n darparu “setliad cliriach a chryfach ar ddatganoli Cymreig.”

Dywedodd hefyd y byddai’r Mesur yn golygu y gallai cyfraddau treth incwm gael eu datganoli i Gymru heb yr angen am refferendwm.

Ond, mae nifer wedi’i feirniadu gan gynnwys cyn-Ysgrifennydd Cymru, yr Arglwydd Peter Hain, a ddywedodd y byddai gwaredu â’r angen am refferendwm ar bwerau trethu i Gymru yn “gyfansoddiadol annerbyniol.”

‘Annheilwng i bobol Cymru’

Yn Nhŷ’r Arglwyddi neithiwr, dywedodd y Farwnes Eluned Morgan ar ran y Blaid Lafur fod y Mesur “yn ei ffurf bresennol yn gymhleth, yn anhygyrch ac yn aneglur a ddim yn datrys y mater o ddatganoli i Gymru fel oedd ei fwriad.”

Dywedodd hefyd bod y Mesur wedi cael ei ruthro a bod agwedd Llywodraeth y DU i newid cyfansoddiadol yng Nghymru yn “amharchus”.

Ychwanegodd yr Arglwydd Elystan-Morgan ei fod yn “annheilwng i’r bobol yng Nghymru” gan ddweud  – “mae gennym lefel lawer is o ddatganoli nawr nad oedd wedi’i osod gan y Goruchaf Lys yn Gorffennaf2014. Goblygiadau hyn yw ein bod yn symud am yn ôl pan allem fod yn symud ymlaen,” meddai.

Ac yn ôl yr Arglwydd Dafydd Wigley ar ran Plaid Cymru, mae’r Mesur yn “annigonol” am fod cymaint â 200 o bwerau wedi eu dal yn ôl gan San Steffan.

“Yn wir, i raddau mae’n gwneud ein sefyllfa ni’n waeth, yn y modd y mae’n cymryd yn ôl pwerau o’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru.”

Trosglwyddiad hanesyddol o bwerau

 

Dywedodd y Farwnes Bloomfield o Hinton Waldrist, sy’n aelod Ceidwadol o’r Tŷ, fod y Mesur  yn rhoi trosglwyddiad “hanesyddol” o bwerau i Gymru

Ychwanegodd y Farwnes, a gafodd ei geni a’i magu yn ne Cymru, ei bod yn gobeithio y byddai’r mesur yn gwneud “gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl.”

Un arall a siaradodd o blaid y mesur oedd yr aelod Ceidwadol, y Farwnes Finn, a ddywedodd bod y Mesur yn “mynd i’r afael â’r diffygion yn y setliad presennol”.

Fodd bynnag, er ei bod yn cefnogi’r Mesur, mynegodd y Farwnes Finn “siom personol” ynglŷn â chynlluniau i ganiatáu datganoli pwerau amrywio treth incwm heb refferendwm.

Aeth y Mesur trwy’r ail ddarlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi yn ddiwrthwynebiad ond bydd yn sicr o wynebu galwadau am newid gan y pwyllgor craffu, yn ddiweddarach.