Tim Pel-droed Cymru yn ymweld ag Aberfan (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)
Wedi penwythnos prysur, fe aeth carfan tîm pêl-droed Cymru i ymweld ag Aberfan y bore yma wrth nodi hanner can mlynedd ers y trychineb a laddodd 116 o blant a 28 o oedolion.

Yn ôl llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru, “mae’n bwysig i’r chwaraewyr gael gweld a chofio rhai o ddigwyddiadau mawr hanes Cymru.”

Dywedodd fod y gymdeithas yn ceisio trefnu ymweliadau o’r fath pan fo’r garfan i gyd gyda’i gilydd, ac yn ystod pencampwriaeth Ewro 2016 eleni, bu’r tîm yn ymweld â chofeb y Cymry yn Langemark yng  Ngwlad Belg.

“Mae’n gyfle iddyn nhw adlewyrchu ar yr hyn sydd wedi digwydd, ac mae’n bwysig iddyn nhw ddeall beth sydd wedi digwydd yn hanes Cymru,” meddai’r llefarydd.

“Mae chwaraeon yn chwarae rhan fawr yn hynny, ac ar ddiwedd y dydd, mae’n bwysig iddyn nhw am eu bod yn cynrychioli pobol Cymru ar y cae.”

Neithiwr, fe gafodd Cymru gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Georgia yng Nghaerdydd, a bu’n gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Awstria  yn Fienna nos Iau ddiwethaf hefyd.