Llun: PA

Mae mynd i’r afael ag achosion o hunanladdiad yn un agwedd o gynllun newydd gan Lywodrath Cymru sy’n cael ei lansio heddiw ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd.

Fe fydd y strategaeth yn ceisio gwella lles meddyliol pobol o bob oed ar draws y wlad ac annog pobol i siarad a thrafod os ydyn nhw’n teimlo’n isel.

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi £22m o gyllid ychwanegol i’w wario ar amcanion cynllun ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ dros y tair blynedd nesaf.

Ynddi, mae deg maes blaenoriaeth gan gynnwys camau i geisio lleddfu nifer yr achosion o hunanladdiad a hunan-niweidio.

‘Stigma yn parhau’n her fawr’

Bydd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething hefyd yn cyhoeddi y bydd gwell cymorth i bobol ifanc, pobol sy’n dioddef o anhwylder bwyta, cymorth yn ystod beichiogrwydd a’r cyfnod ar ôl yr enedigaeth, a chynllun gweithredu strategol newydd ar gyfer dementia.

“Rydyn ni wedi parhau i wario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl nag ar unrhyw ran arall o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac mae’r cyllid wedi cynyddu i £600m yn 2015-16,” meddai’r Ysgrifennydd.

“Mae’n bwysig ein bod yn parhau i gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o broblemau iechyd meddwl a bod mwy o bobol yn dechrau siarad am hyn. Mae’r stigma sy’n aml yn gysylltiedig ag iechyd meddwl yn parhau i fod yn her fawr.

“Bydd materion iechyd meddwl yn effeithio ar bob un ohonom ar ryw adeg neu’i gilydd – lle byddwn un ai yn profi’r materion ein hunain neu y byddant yn effeithio ar aelod o’r teulu neu ar rywun rydyn ni’n gweithio gyda nhw bob dydd.”