Llys yr Old Bailey yn Llundain Llun: Wicipedia
Fe fydd dyn ifanc o Lanelli yn ymddangos yn llys yr Old Bailey heddiw ar gyhuddiad o hacio cyfrifiaduron cwmni ffonau TalkTalk cyn mynnu tâl o filoedd o bunnau i beidio datgelu’r wybodaeth am ei gwsmeriaid.

Honnir bod Daniel Kelley, 19, o Heol Dinbych, Llanelli wedi dwyn manylion cwsmeriaid y cwmni fis Hydref y llynedd.

Clywodd Llys Ynadon Westminster fis diwethaf ei fod wedi mynnu tal mewn Bitcoins, sef math o arian digidol, gwerth tua £276,000 gan y cwmni.

Mae’n cael ei gyhuddo hefyd o ymosodiadau tebyg ar gwmni Zippo a chwmni addysg yn Queensland, Awstralia yn 2015.

Mae Daniel Kelley yn wynebu  14 cyhuddiad – gan gynnwys wyth achos o flacmel, pedwar trosedd yn ymwneud a hacio ffonau a dau achos o dwyll.

Cafodd Kelley ei arestio ym mis Tachwedd y llynedd a’i gyhuddo gan dditectifs Scotland Yard ym mis Medi.

Nid oedd Daniel Kelley wedi cyflwyno ple a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth. Bydd yn ymddangos yn llys yr Old Bailey heddiw.