Gêm gyfartal, a gêm galed, i Gymru heno, a Gareth Bale yn dipyn o arwr i’r tim cartre’ yng Nghaerydd.

Ef gafodd y gol agoriadol wedi 10 munud o chwarae, ac felly y buodd hi weddill yr hanner cynta’, gyda Chymru ar y blaen. Fe fu’n rhaid i Georgia weithio’n galed am 12 munud o’r ail hanner cyn y daeth y gol i’w gwneud hi’n gêm gyfartal, a honno’n dod o ergyd gan Okriashvili ar ol 57 munud.

Ar wahân i Gareth Bale a fu fel cawr o ddibynadwy i Gymru, fe ddaeth Hal Robson-Kanu yn agos at sgorio – a hynny oddi ar ei droed chwith fel y gwaeth yn Ffrainc eleni… ond roedd golwr Georgia, Giorgi Loria, yn arwrol wrth arbed. Fel arall, byddai’n 2-1.

Mae’n drueni i Sam Vokes, ar yr awr a hanner, fethu â rheoli pas dda i’r cwrt gan Ben Davies. Ond erbyn diwedd yr ail hanner, roedd chwaraewyr Cymru i weld fel pe baen nhw wedi blino, tra bod chwaraewyr Georgia yn dal yn gry’.

Heb Aaron Ramsey na Joe Allen, fe fydd rhai’n anadlu’n ddwfn wedi i Gymru gael un pwynt o’r gêm galed hon. Bydd rhai eraill, a fu’n darogan buddugoliaeth o 3-0 a 4-0, yn siomedig.