Mae rhybudd i gefnogwyr pêl-droed sy’n teithio i Gaerdydd ar gyfer y gêm rhwng Cymru a Georgia fod nifer o wasanaethau trên wedi cael eu canslo.

Mae gwaith cynnal a chadw’n cael ei gwblhau dros y penwythnos, ac mae’n effeithio’n benodol ar wasanaeth y Cymoedd.

Ni fydd gwasanaethau rhwng Stryd y Frenhines a Gorsaf Ganolog y brifddinas dros y penwythnos o ganlyniad i’r gwaith.

Bydd bws yn cludo teithwyr, ond ni fydd bws i Grangetown rhwng 6 o’r gloch ac 8.30 nos Sul oherwydd pryderon y gallai fod yn orlawn.

Mae Arriva Cymru wedi dweud bod y gwaith yn hanfodol.