Mae angen “dyfrhau hedyn” addysg Gymraeg yn Ynys Môn os yw’r iaith i ffynnu yno, yn ôl un fydd yn siarad mewn rali yn Llangefni ddydd Sadwrn.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi mynegi pryder bod 38% o blant yr ynys yn cael eu hasesu ar lefel ail iaith yn hytrach na iaith gyntaf yn y sir.

Diben y rali yw cyflwyno coeden i’r cyngor sir gan alw arnyn nhw i “blannu’r hedyn ar gyfer twf yr iaith yn ei strategaeth iaith”.

Byddan nhw’n galw am addysg Gymraeg i bob plentyn fel eu bod yn gadael yr ysgol yn rhugl.

Ymhlith y siaradwyr yn Llangefni fydd y Prifardd Cen Williams, y cynghorydd Carwyn Jones, disgyblion ysgol lleol a’r Aelod Cynulliad Siân Gwenllian.

Ar drothwy’r rali, dywedodd cadeirydd rhanbarth Gwynedd-Môn Cymdeithas yr Iaith, Menna Machreth: “Os yw’r Gymraeg i ffynnu yn Ynys Môn, mae’r cyngor, sydd wrthi’n plannu’r hedyn nawr, gyda’i strategaeth iaith, angen ei dyfrhau a’i dyfu.

“Byddwn ni’n cadw llygad barcud ar y cyngor i weld a ydyn nhw’n gweithredu yn unol â’u hymrwymiadau dros y misoedd i ddod cyn i’r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â’r sir fis Awst flwyddyn nesaf.

“Allwn ni ddim parhau â system addysg sy’n amddifadu cymaint o blant o’r gallu i fyw eu bywydau yn Gymraeg. Mae cyfle i’r sir ddilyn arweiniad Sir Gaerfyrddin a symud at addysg cyfrwng Cymraeg cyflawn i bob un plentyn.

“A chan fod Llywodraeth Cymru rwan yn datgan eu bod yn bwriadu ddiddymu’r Gymraeg fel ail iaith, mae cyfle gan y Cyngor i symud pob un plentyn at lefel iaith gyntaf dros y cwpl o flynyddoedd nesaf.

“Ac os daw nifer o ddatblygiadau i Ynys Môn, mae’n rhaid i’r system addysg allu cymhathu’n effeithiol iawn plant teuluoedd sy’n symud i mewn.”

Mae aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi cwrdd â swyddogion y Cyngor nifer o weithiau i drafod ei strategaeth iaith ac yn mynychu cyfarfodydd fforwm iaith y sir.

Bydd y rali yn Llangefni’n dechrau am 2 o’r gloch yn Sgwâr Bulkley.