Mae Cymdeithas yr Iaith wedi codi pryderon am fod 38% o blant ysgol yn Ynys Môn yn dilyn cyrsiau Cymraeg ail iaith yn hytrach na Chymraeg iaith gyntaf.

Bydd ymgyrchwyr yn cyflwyno coeden i Gyngor Sir Ynys Môn yn Llangefni ddydd Sadwrn, gan alw arnyn nhw i “blannu’r hedyn ar gyfer twf yr iaith yn ei strategaeth iaith”.

Ymhlith y siaradwyr mewn rali yn Llangefni fydd y Prifardd Cen Williams, y cynghorydd Carwyn Jones, disgyblion ysgol lleol ac Aelod Cynulliad Plaid Cymru Siân Gwenllian.

Dywedodd Siân Gwenllian: “Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi cyhoeddi ei bwriad i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.

“Mae’n rhaid cael cynllun sy’n egluro sut mae am wneud hyn gan egluro’n fanwl sut y bydd yn creu’r cynnydd enfawr, cyflym yn y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg sydd ei angen.

“Mae’n rhaid cael cynllun gweithredu clir a cherrig milltir penodol ar y daith. Fel arall, dyhead niwlog di-werth yw’r nod miliwn siaradwyr. Mae amser yn brin.  Rhaid cael gweithredu cyn ei bod yn rhy hwyr.”

Ychwanegodd Gwion Morris Jones, disgybl 17 mlwydd oed sy’n mynychu Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch, a fydd yn annerch y dorf yn y rali: “Yn fy marn i, addysg Gymraeg yw allwedd achub yr iaith. Mae dulliau trochi wedi eu profi’n llwyddiannus iawn yn nifer o rannau o’r wlad.

“Dylen ni ei ystyried fel rhywbeth di-gwestiwn ar draws y Gogledd. Dylai addysg cyfrwng Cymraeg effeithiol fod yn ddiamod; rhywbeth angenrheidiol i bob plentyn.

“Mae addysg Gymraeg wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi ac wedi fy nghryfhau i fel unigolyn. Dydy o ddim yn hawdd weithiau achos bod y meddylfryd dal i fod y dylai pethau ffurfiol fod yn Saesneg. Ond mae’r Gymraeg wedi agor drysau i mi ac wedi rhoi cyfleoedd fel gweithgareddau’r Urdd ac eraill.”

Bydd y rali’n dechrau am 2 o’r gloch yn Sgwâr Bulkley y dref.