Dros y pedair blynedd ddiwethaf, mae nifer y disgyblion 14 oed ar Ynys Môn â’r Gymraeg yn iaith gyntaf iddyn nhw wedi crebachu.

Yn 2009 roedd 66% o ddisgyblion 14 oed yn gallu’r iaith fel iaith gyntaf ond erbyn 2013, roedd y ffigwr hynny wedi cwympo i 61.8%.

Wrth i Gymdeithas yr Iaith baratoi at ei rali flynyddol yn Llangefni fory, maen nhw’n tynnu sylw at y gwymp fel ffordd o danlinellu’r angen am addysg Gymraeg i bawb.

Mae’r ffigurau ar gyfer yr Ynys hefyd yn dangos bod 30% o blant y sir ddim yn sefyll yr un arholiad TGAU  drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn ôl disgybl ysgol o Amlwch, fydd yn siarad yn y rali, mae angen “dulliau trochi” iaith ym mhob ysgol ar draws y gogledd.

“Yn fy marn i, addysg Gymraeg yw allwedd achub yr iaith,” meddai Gwion Morris Jones, sy’n 17 oed ac yn mynd i Ysgol Uwchradd Syr Thomas Jones.

“Mae dulliau trochi wedi eu profi’n llwyddiannus iawn yn nifer o rannau o’r wlad. Dylen ni ei ystyried fel rhywbeth di-gwestiwn ar draws y Gogledd. Dylai addysg cyfrwng Cymraeg effeithiol fod yn ddiamod; rhywbeth angenrheidiol i bob plentyn.”

Dilyn esiampl Sir Gâr

Mae Cymdeithas yr Iaith am weld system debyg i un Sir Gaerfyrddin ymhob sir, sef cynllun i symud ysgolion i fyny categorïau ieithyddol, tan eu bod yn gwbl Gymraeg.

Yn ogystal â Gwion Morris Jones, bydd y Prifardd Cen Williams, y Cynghorydd Carwyn Jones, disgybl arall, Paul Magee a Siân Gwenllian AC yn annerch y dorf.

‘Diffyg cynllunio’ addysg Ynys Môn

“Yn sicr, fedrwn ni ddim parhau efo cyfundrefn addysg sy’n amddifadu cymaint o’n plant o fedru cyfathrebu a gweithio yn Gymraeg – pam ar wyneb ar ddaear ydy cymaint â thri ym mhob deg o’n plant yn y sefyllfa yma?” meddai Menna Machreth, cadeirydd rhanbarth Gwynedd-Môn Cymdeithas.

“Mae’n gwbl annerbyniol yn y 21ain ganrif – ac mae rhaid i’r cyngor sir ateb am eu diffyg uchelgais. Mae’n rhaid iddyn nhw sicrhau bod pob un plentyn yn cael addysg gyfan gwbl Gymraeg eu hiaith er mwyn sicrhau bod yr iaith yn ffynnu dros y blynyddoedd i ddod.”

“Mae hefyd diffyg cynllunio addysg yn y sir yn wyneb datblygiadau enfawr Land & Lakes, y Cynllun Datblygu Lleol a’r mewnlifiad os daw Wylfa B. Mae’n rhaid i’r gwleidyddion fynd i’r afael â hyn.”

Bydd Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith yn digwydd am 10:30 bore dydd Sadwrn yng Nghlwb Y Wellman’s, Llangefni a’r Rali am 2 o’r gloch y prynhawn yn Sgwâr Bulkley yng nghanol y dref.

Ymateb Cyngor Môn

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn:

“Mae’r ganran o ddysgwyr yn Ynys Môn sy’n astudio ar gyfer dau neu fwy o gymwysterau trwy gyfrwng y Gymraeg ym mlwyddyn 11 wedi cynyddu o 73.4% yn 2013 i 88.8% yn 2015. Daw hyn yn sgil ymdrechion ysgolion i gynyddu’r ddarpariaeth gyfrwng Gymraeg.”

“Mae Cynllun Strategol Yr Iaith Gymraeg yn pwysleisio ymrwymiad yr ysgolion a’r awdurdod i gynyddu’r nifer o blant a asesir drwy gyfrwng y Gymraeg ac ar ddiwedd pob cyfnod allweddol, gan gynnwys y nifer sy’n sefyll pynciau TGAU a Lefel A/AS drwy gyfrwng y Gymraeg.”