Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud y gallai fod rhwng 70,000 a 100,000 o litrau o olew wedi’i ollwng mewn nant yn Sir Gaerfyrddin sy’n llifo i afon Tywi.

Mae nifer o bysgod marw wedi cael eu canfod yn y dŵr, ond mae Dŵr Cymru wedi cadarnhau nad oes effaith ar gyflenwadau dŵr yfed.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn asesu effaith lawn y digwyddiad a cheisio nodi faint yn union o olew gafodd ei ollwng o bibell i Nant Pibwr, Nant-y-caws.

Mae’r gwaith yn parhau i leihau’r effaith, gyda chontractwyr ar y safle yn ceisio tynnu’r olew o’r dŵr.

Mae gwaith atgyweirio pibelli wedi bod yn digwydd yn yr ardal dros yr wythnos ddiwethaf ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n “gweithio’n agos” gyda’r cwmni oedd yn gyfrifol am y gwaith.