Mae Prif Weinidog Cymru ac arweinydd Llafur Cymru, Carwyn Jones, wedi ysgrifennu llythyr at aelodau a chefnogwyr ei blaid ynghylch cynlluniau’r Torïaid ar fewnfudo a gyhoeddwyd yn eu cynhadledd flynyddol yn Birmingham yr wythnos hon.

Mae’n dweud bod cynnwys a naws y cyhoeddiadau a wnaed yn y Gynhadledd yn “sinistr”, ac mae’n taro’n ôl yn erbyn cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i leihau nifer y meddygon tramor sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd.

Mewn neges i aelodau a chefnogwyr Blaid Lafur Cymru, mae’n cyhuddo’r Torïaid o “wleidyddiaeth y gwter” ac yn dweud na fydd unrhyw restrau o weithwyr tramor mewn busnesau yng Nghymru.

Mae’r llythyr damniol yn dweud hefyd na feddyliodd Carwyn Jones erioed “y byddai angen i mi gyfathrebu neges fel hyn yn 2016”.

Cynnwys y llythyr 

“… Ni fyddwn ni’n cefnogi’r neges y bydd raid i feddygon tramor yng Nghymru ‘fynd adref’. Ni fyddwn ni’n cefnogi gwneud rhestrau o weithwyr tramor mewn busnesau yng Nghymru. Byddwn hefyd yn ymladd yn erbyn cynigion i gau drysau ein prifysgolion i’r mwyaf disglair a’r gorau o bedwar ban byd.

“Mae Brexit yn ddigwyddiad seismig a chythryblus yn hanes ein gwlad, ac mae sut yr ydym yn ymateb iddo yn linyn mesur y genhedlaeth hon o wleidyddion a phleidiau gwleidyddol.

“Rwyf wedi gwneud yn gwbwl glir bod yn rhaid i Gymru dderbyn canlyniad y refferendwm, ni allwn ail ymladd y frwydr honno, ond gallwn ymladd dros ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Dyfodol disglair i’n plant a’n hwyrion, yn seiliedig ar ein gwerthoedd o degwch, rhyngwladoliaeth a ffyniant i bawb.

“Mae’r cyhoeddiadau sydd wedi dod gan y Torïaid yr wythnos hon yn dangos pa mor hanfodol yw hi ein bod yn ennill y frwydr honno – mae’n frwydr dros enaid Prydain ôl-Brexit.”