Mae’r cwmni sydd eisiau codi atomfa niwclear newydd ym Môn wedi wfftio cwynion o fod eisiau gwanhau mesurau i ddiogelu’r Gymraeg.

Tra’n cydnabod y bydd y broses o adeiladu Wylfa Newydd yn cael “effeithiau tymor byr ar yr iaith Gymraeg”, mae Horizon wedi dweud wrth golwg360 y bydd yn “gwella” sefyllfa’r iaith ym Môn.

Yn ôl ymgyrchwyr iaith mae Horizon wedi gofyn am newid polisi iaith Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn, fel bod y cynghorau sir ond yn cael gwrthod cais cynllunio os yw’r datblygiad yn debygol o wneud niwed i’r Gymraeg yn y ‘tymor hir’.

Mae’r ymgyrchwyr iaith – Dyfodol i’r Iaith, Cymdeithas yr Iaith a Chylch yr Iaith – yn dadlau bod Horizon felly yn derbyn y bydd codi atomfa newydd ym Môn yn achosi niwed i’r iaith yn y ‘tymor byr’.

Yn ôl y mudiadau iaith, mae Horizon wedi gofyn i’r Arolygwr Cynllunio sy’n ymgynghori ar gynnwys Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn, i newid y polisi iaith mewn gwrandawiad diweddar.

Adroddiad 

Nid yw’r Arolygwr yn cyhoeddi ei adroddiad ar gynnwys y Cynllun tan fis Mawrth, ond mae’r mudiadau iaith eisoes yn pwyso am wrthod cais Horizon.

Dros yr Haf mae’r cwmni sydd am godi Wylfa Newydd wedi tynnu nyth cacwn am ei ben drwy bwyso am ddileu’r hawl i wrthod cais cynllunio os ystyrir bod datblygiad yn debygol o niweidio’r Gymraeg.

Roedden nhw’n gofyn yn benodol am ddileu o’r Cynllun Datblygu Lleol y cymal fyddai yn rhoi’r hawl i gynghorau Gwynedd a Môn;

‘Gwrthod cynigion a fyddai oherwydd eu maint, graddfa neu leoliad yn achosi niwed arwyddocaol i gymeriad a chydbwysedd iaith cymuned.’ 

Roedd y cwmni’n honni y bod y polisi yn “rhy gyfyngol”, ac y byddai peidio â’i ddiwygio yn “gallu peryglu cyflenwi prosiect Wylfa Newydd a datblygiadau cysylltiedig”.

Ond wedi gwrthwynebiad gan Gyngor Môn, fe gladdodd Horizon y cais hwnnw.

Miloedd o weithwyr 

Mae disgwyl y bydd dros 8,000 o weithwyr i godi’r atomfa, ac mae’r mudiadau iaith yn poeni am effaith mewnlifiad o siaradwyr heb Gymraeg ar yr Iaith.

Mae Horizon wedi cyflogi cwmni ymgynghori Arad sydd, gyda Phrifysgol Bangor, i edrych ar effaith codi’r atomfa ar yr iaith Gymraeg.

Hefyd maen nhw wedi pwysleisio mai dim ond am dri mis tua diwedd 2022 y bydd nifer y gweithwyr ar ei anterth, ac y bydd y “ffigwr hwn yn gostwng yn raddol mor gynnar â dechrau 2023 ymlaen”.

Ond “ni fydd y gweithlu adeiladu i gyd yn cyrraedd ar yr un pryd,” meddai llefarydd Horizon, “ond yn hytrach bydd y niferoedd yn cynyddu’n raddol dros sawl blwyddyn.

“Hyd yn oed yn ystod y cyfnod adeiladu prysuraf, ni fyddant i gyd ar y safle ar yr un pryd oherwydd patrymau gweithio mewn shifft.

“Bydd eraill yn cael eu cyflogi mewn lleoliadau adeiladu oddi ar y safle. Rydym yn agored ac yn dryloyw am nifer y gweithwyr a ddisgwylir ar gyfer gwahanol elfennau’r prosiect – ar y safle ac oddi ar y safle.”

Mae’r mudiadau iaith yn pwyso ar yr awdurdodau i wrthod yr hyn maen nhw’n ei weld fel ymgais i wanhau polisi iaith Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn.

“Mae hi’n amlwg fod Horizon yn benderfynol yn y mater hwn, felly mae gofyn i’r cyngor a’r Arolygwyr fod yn fwy penderfynol yn eu gwrthwynebiad,” meddai’r mudiadau iaith mewn datganiad ar y cyd.

Wylfa Newydd yn ‘gwella’ sefyllfa’r Gymraeg

Mewn datganiad yn ymateb i’r pryderon diweddaraf, dywedodd Sasha Davies, Pennaeth Datblygu Strategol Cymru Pŵer Niwclear Horizon:

“Bydd Prosiect Wylfa Newydd yn diogelu ac yn gwella’r sefyllfa o ran yr iaith Gymraeg, diwylliant a’r economi am genedlaethau i ddod.

“Yn benodol, mae ein gwaith i fynd i’r afael â maes pwysig y Gymraeg yn nodi y byddwn yn cyfrannu at ei gwella, nid ei niweidio, yn y tymor hir. Rydyn ni’n gwybod y bydd Wylfa Newydd yn sylfaen i’r iaith ac yn barod mae wedi creu cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg sydd eisiau parhau i fyw a gweithio’n lleol.

“Ein nod yw parhau i chwarae rhan weithredol fel eiriolwr ar ran y Gymraeg a diwylliant Cymru yn Ynys Môn a ledled gogledd Cymru.

“Mae ein Hadroddiad Interim ar yr Asesiad o’r Effaith ar yr Iaith Gymraeg yn cydnabod y potensial i rannau o’n Prosiect gael effeithiau tymor byr ar yr iaith Gymraeg, ond mae hefyd yn amlygu ein hymrwymiad i reoli’r effeithiau hyn yn effeithiol.

“Rydyn ni’n parhau i weithio o fewn cyd-destun y drafft o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd a chynlluniau a pholisïau perthnasol eraill i sicrhau bod yr effeithiau tymor byr hyn yn cael eu hasesu’n briodol a bod camau lliniaru y cytunir arnyn nhw’n cael eu cymryd.”