Siop Griffiths - neu Muriau Stores cyn hynny - ym Mhen-y-groes
Mae dwy ardal o Gymru wedi cael llwyddiant yn yr wythnosau diwethaf ar ôl i ddwy ymgyrch gymunedol gyrraedd carreg filltir.

Ddoe, fe wnaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog bleidleisio’n unfrydol dros adael i drigolion lleol droi hen dafarn yn fflatiau a siopau i’w atal rhag cael ei droi i mewn i archfarchnad yng Nghrughywel.

Ddiwedd y mis diwetha’, llwyddodd ymgyrch ym Mhen-y-groes, Gwynedd i brynu un o adeiladau mwyaf hanesyddol Dyffryn Nantlle, Siop Griffiths.

Tafarn Crughywel

Yn ne Powys, roedd ymgyrchwyr wedi prynu tafarn y Corn Exchange yn y dref oherwydd eu bod yn credu y byddai addasu’r adeilad yn archfarchnad yn cael effaith andwyol ar eu stryd fawr.

Roedd 220 o bobol wedi buddsoddi cyfanswm o £500,000 yn y fenter a prynwyd y dafarn ym mis Tachwedd y llynedd cyn iddyn nhw roi cynlluniau i’r Parc Cenedlaethol er mwyn adnewyddu’r dafarn yn fflatiau a siopau bychain.

Ddoe, fe gafodd cais yr ymgyrchwr i newid yr adeilad rhestredig ei gymeradwyo’n unfrydol gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Corn Exchange Crucywel Cyf, Dean Christy, wrth gyfarfod cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog: “Yr hyn sy’n arbennig am Corn Exchange Crucywel Ltd yw ei fod yn eiddo yn bennaf gan bobl Crughywel oedd yn gwrthwynebu sefydlu archfarchnad a fyddai wedi bygwth, nid yn unig cymeriad unigryw y dref, ond hefyd bywoliaeth y teuluoedd amrywiol sy’n eiddo busnesau sydd wedi gwasanaethu’r dref ers cenedlaethau.”

Siop Griffiths

Wedi ymgyrch bron i flwyddyn o hyd, llwyddodd grŵp cymunedol ym Mhen-y-groes i brynu Siop Griffiths yn y pentref ar Fedi 22.

Yn ôl Ben Gregory, sy’n aelod o fwrdd Griffiths, y gobaith yw i newid yr adeilad i fod yn llety 20 gwely ar gyfer ymwelwyr, caffi, canolfan dywys awyr agored fydd yn cynnig teithiau treftadaeth o’r ardal, a chanolfan ddigidol i bobol ifanc.

Mae cynlluniau ar gyfer gweddnewid y siop ar ddangos yn llyfrgell Penygroes ar hyn o bryd ac fe fydd cais cynllunio’n cael ei wneud erbyn diwedd yr wythnos hon.

Llwyddodd y prosiect i gasglu £50,000 mewn deg wythnos er mwyn prynu’r adeilad ac roedd y rhai oedd yn cyfrannu £100 yn cael siâr yn y busnes.

Meddai Ben Gregory: “Erbyn hyn, mae genno ni 160 o gyfranddalwyr ac mae tua 90% yn bobol leol.  Mae’r gymuned wedi bod yn hael iawn o feddwl nad yw’r ardal yn un gyfoethog iawn.

“Ac wrth i ni nawr geisio am grantiau i wneud gwaith ar yr adeilad, gallwn ddangos ymrwymiad pobl leol i’r prosiect a dangos yn glir bod gan y prosiect gefnogaeth y gymuned.”