Mae dyn o Gaerdydd wedi’i gyhuddo o gyfres o droseddau’n ymwneud a brawychiaeth.

Fe fydd Samata Ullah, 33, yn mynd gerbron Llys Ynadon Westminster ddydd Mercher.

Dywedodd Scotland Yard bod Samata Ullah wedi’i gyhuddo o chwe throsedd gan gynnwys bod yn aelod o sefydliad brawychol sef y Wladwriaeth Islamaidd (IS), hyfforddi ar gyfer brawychiaeth, paratoi ar gyfer brawychiaeth, cyfarwyddo brawychiaeth a dau gyhuddiad o fod ag eitemau’n gysylltiedig â pharatoi a chomisiynu gweithred brawychol yn ei feddiant.

Fe ddigwyddodd y troseddau honedig rhwng 1 Rhagfyr 2015 a 22 Medi 2016.

Cafodd Ullah ei arestio ar stryd yng Nghaerdydd gan swyddogion gwrth-frawychiaeth yr Heddlu Metropolitan ar 22 Medi.

Dywedodd Scotland Yard bod y cyrch wedi ei drefnu o flaen llaw ac yn rhan o ymchwiliad gydag Uned Eithafiaeth a Gwrthderfysgaeth Cymru (WECTU).