Mae Heddlu’r De yn apelio am dystion ar ôl i ddynes farw mewn gwrthdrawiad ger Caerdydd y bore ma.

Bu farw’r ddynes 53 oed ar ôl i’w char Seat Ibiza droi drosodd  wrth iddi deithio o Gyffordd 33 ar ffordd yr A4232 tuag at Groes Cwrlwys tua 7yb ddydd Mawrth.

Cafodd ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru lle cadarnhawyd ei bod wedi marw.

Mae teulu’r ddynes wedi cael gwybod ac yn cael cymorth gan swyddogion teulu arbenigol.

Nid yw’r heddlu’r credu ar hyn o bryd bod unrhyw gerbydau eraill yn gysylltiedig â’r gwrthdrawiad ac maen nhw’n apelio am dystion i gysylltu â nhw.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a oedd wedi stopio i helpu, neu unrhyw un a welodd y cerbyd yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad.

Bu’r ffordd ynghau am fwy na thair awr.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu’r De ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1600382012.