Llun: Horizon
Mae mudiadau iaith wedi cyhuddo’r cwmni sy’n gobeithio datblygu atomfa Wylfa Newydd o weithredu yn erbyn lles y Gymraeg  drwy wneud ail ymgais i newid polisi iaith Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn.

Bwriad Horizon yw sicrhau caniatâd cynllunio i ddatblygiadau’n ymwneud â Wylfa Newydd, a chafodd ymgais gyntaf y cwmni i newid y polisi ei beirniadu’n hallt gan Arweinydd Cyngor Môn ymysg eraill.

Roedd y cwmni ar y cychwyn wedi galw am ddiddymu cymal allweddol ym mholisi iaith y Cynllun sy’n diogelu hawl i wrthod cais cynllunio os ystyrir bod datblygiad yn debygol o niweidio’r Gymraeg.

Yn ôl y mudiadau iaith – sy’n cynnwys Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Cylch yr Iaith, Dyfodol i’r Iaith a Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai – roedd hyn yn dangos yn glir fod Horizon yn cydnabod y byddai datblygiad Wylfa Newydd yn niweidio’r Gymraeg fel iaith gymunedol.

Cais newydd

 

Yn dilyn datganiad gwrthwynebus gan y Cynghorydd Ieuan Williams, Arweinydd Cyngor Môn, tynnodd Horizon y cais yn ôl. Fodd bynnag, mae Horizon wedi gwneud ymgais arall i newid y polisi iaith.

Y cais y tro hwn yw newid y polisi fel na fyddai’n berthnasol oni bai fod datblygiad arfaethedig yn debygol o wneud niwed i’r Gymraeg yn y ‘tymor hir’.

Yn enw Pwyllgor Ymgyrch Tai a Chynllunio Gwynedd a Môn, mae’r mudiadau iaith wedi anfon llythyr at Arweinydd Cyngor Môn yn tynnu sylw at ddiffygion yn nadl Horizon.

Meddai’r llythyr sydd wedi ei arwyddo gan  Ieuan Wyn (Ysgrifennydd Cylch yr Iaith), Simon Brooks (Ysgrifennydd Dyfodol i’r Iaith), Geraint Jones (Rheolwr, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai) a Menna Machreth (Cadeirydd Pwyllgor Rhanbarth Gwynedd/Môn o Gymdeithas yr Iaith): “Dymunwn fynegi ein pryder a’n hanniddigrwydd cynyddol ynghylch ymdrechion cwmni Horizon i danseilio polisi iaith Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.
“Rydym yn siŵr y cytunwch â ni fod y cais hwn gan Horizon yr un mor annerbyniol â’r cais cyntaf oherwydd byddai mabwysiadu’r polisi iaith y mae’r cwmni yn ei geisio yn dileu’r diogelwch sydd i’r Gymraeg ym maes cynllunio gwlad a thref.

“Rydym yn galw ar yr Arolygwyr i wrthod cais Horizon, a byddem yn falch pe bai Cyngor Sir Ynys Môn yn gwneud datganiad cyhoeddus arall yr un mor gadarn â’r cyntaf yn beirniadu’r ail ymgais hon gan y cwmni i danseilio polisi iaith y Cynllun Datblygu Lleol. Gofynnwn hefyd i’r cyngor anfon at y cwmni ei hun yn datgan gwrthwynebiad.”

Deddf Rhyddid Gwybodaeth

Er mwyn cael y stori lawn, mae’r mudiadau hefyd wedi gwneud cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth am gopïau caled ac electronig o ohebiaeth hyd yma rhwng y cyngor a chwmni Horizon.

Meddai’r mudiadau mewn datganiad: “Mae’n amlwg i bawb sydd â diddordeb difrifol yn y mater hwn ac sydd â chonsýrn gwirioneddol ynghylch effaith datblygiadau Wylfa Newydd ar ein hiaith ym Môn a’r tu hwnt, nad ydi’r sefyllfa ddim yr hyn a ddylai fod.

“Mae’r ffaith fod Horizon yn mynd ati fel hyn i geisio dirymu’r polisi iaith yn brawf diymwad fod y sefyllfa’n gwbl anfoddhaol. Yn ein barn ni, mae’n hanfodol yn enw democratiaeth fod popeth yn dryloyw yn y drafodaeth gyhoeddus bwysig hon oherwydd mae dyfodol ein hiaith ym Môn yn y fantol.”

Horizon

Ar ei anterth, mae disgwyl y bydd 10,500 o weithwyr ar safle’r Wylfa Newydd, ac mae ymgyrchwyr lleol yn poeni y byddai cael cymaint o weithwyr yn symud i’r ardal yn niweidio’r Gymraeg.

Dechrau fis Medi, dywedodd llefarydd Horizon wrth golwg360 mewn datganiad mai dim ond am dri mis tua diwedd 2022 y bydd nifer y gweithwyr ar ei anterth, ac y bydd y “ffigwr hwn yn gostwng yn raddol mor gynnar â dechrau 2023 ymlaen”.

Mae Horizon yn mynnu y bydd cynllun Wylfa Newydd yn dod â “buddiannau hirdymor sylweddol i’r Gymraeg” yn ystod y 60 mlynedd y bydd yr atomfa’n weithredol.

Mae golwg360 wedi gofyn i Horizon am ymateb i’r honiadau diweddaraf.

Bydd canlyniad cais Horizon i newid polisi iaith y Cynllun Datblygu Lleol yn dod i’r amlwg ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf pan fydd adroddiad yr archwiliad o’r Cynllun yn cael ei gyhoeddi.

Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad bryd hynny a’i gyflwyno i’r ddau gyngor sir, bydd y Cynllun yn cael ei fabwysiadu ac yn dod yn weithredol yn unol ag argymhellion yr Arolygwyr.