Mae’r gwasanaethau brys wedi eu galw i wrthdrawiad difrifol yng Nghaerdydd y bore ma.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A4232 toc wedi 7yb bore dydd Mawrth.

O ganlyniad mae cyffordd 33 o draffordd yr M4 ynghau ar hyn o bryd ac mae gyrwyr yn cael eu cynghori i osgoi’r ardal a chaniatáu amser ychwanegol ar gyfer eu taith.