Cig oen Cymru
Fe fydd Cig Oen Cymru ar gael mewn 300 yn fwy o siopau bwyd yng Nghanada o hyn ymlaen, yn dilyn cytundeb rhwng siopau bwyd yn y wlad a Hybu Cig Cymru (HCC).

Bydd modd prynu cwtledi cig oen yn archfarchnadoedd Loblaws yn Ontario, siopau Provigo yn Quebec ac mewn canghennau o Your Independent Grocer a Zehr’s ar draws y wlad.

Mae Cig Oen Cymru wedi bod ar gael mewn rhannau o ddwyrain Canada ers 2012 ac mae HCC yn gobeithio bydd y cytundeb yn arwain at werthu mwy yn yr Unol Daleithiau hefyd.

‘Codi ymwybyddiaeth’

Dywedodd Deanna Leven, Swyddog Datblygu’r Farchnad Allforio yn HCC:

“Bu Canada yn farchnad darged bwysig i HCC a’n partneriaid yn y diwydiant cig coch ers peth amser.

“Mae ’na gyffro ynglŷn â’r newyddion ymhlith pobl yng Nghanada sydd o dras Gymreig, ac ymhlith pawb sy’n hoffi bwyd o safon.

“Mae hyn yn gyfle hefyd i godi ymwybyddiaeth o’r cynnyrch yng ngogledd America, yn y gobaith y bydd marchnad yr UDA yn cael ei agor yn y dyfodol.”