Llys y Goron Caerdydd
Mae dyn 20 oed wedi ymddangos o flaen Llys y Goron Caerdydd heddiw wedi’i gyhuddo o lofruddio cwpl  yn y brifddinas yr wythnos ddiwethaf.

Ymddangosodd Andrew Patrick Saunders gerbron y Barnwr Eleri Rees yn Llys y Goron Caerdydd heddiw drwy gyswllt fideo i gadarnhau ei enw yn unig.

Mae wedi ei gyhuddo o lofruddio Zoe Morgan, 21 oed, a Lee Simmonds, 33 oed, tu allan i siop ddillad Matalan ar Stryd y Frenhines ar Fedi 28.

Roedd y ddau yn gariadon ac yn gweithio yn y siop honno.

Dywedodd yr erlynydd, Michael Jones, wrth y gwrandawiad cychwynnol fod ymchwiliadau’r heddlu yn parhau i’r achos.

Mae Andrew  Saunders wedi’i gadw yn y ddalfa tan ei wrandawiad nesaf yn Llys y Goron Caerdydd ar Ragfyr 19.