Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cyhoeddi enwau dau ddyn fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A40 ger Llanymddyfri ddydd Sul, 2 Hydref.

Roedd Philip Martin Brimble, 47, yn hanu o ardal Casnewydd, a Philip Wayne Edwards, 44, yn byw ym Merthyr Tudful. Roedd y ddau yn gyrru beiciau modur adeg y gwrthdrawiad.

Cafodd yr heddlu eu galw toc cyn 12 o’r gloch i safle’r gwrthdrawiad rhwng Llanymddyfri a Halfway.

Bu farw’r ddau feiciwr yn y fan a’r lle a chafodd gyrrwr a theithiwr fan Peugeot eu cludo i’r ysbyty.

Gofynnir i unrhyw un a welodd y ddamwain i gysylltu â Heddlu Dyfed Powys ar 101.