Mae ffermwyr o Langadog yn sir Gaerfyrddin wedi adrodd wrth Heddlu Dyfed Powys am werth £16,000 o wartheg gafodd eu dwyn o’u fferm.

Maen nhw’n honni fod llo pedwar mis oed, tair heffer gyflo ac 11 o wartheg sugno wedi’u dwyn ddydd Gwener, Medi 30.

Yn dilyn y digwyddiad, fe wnaeth Swyddog Undeb Amaethwyr Cymru Sir Gaerfyrddin, David Waters, rybuddio ffermwyr eraill i fod ar eu gwyliadwriaeth.

“Rwy’n annog holl ffermwyr i gymryd sylw o unrhyw beth amheus y gallen nhw weld yng nghefn gwlad ac adrodd amdano i’w swyddog trosedd gwledig yn syth.

“Wrth i’r dyddiau fyrhau’r adeg hon o’r flwyddyn, fe allai rhai gymryd mantais ar geisio dwyn stoc ac offer fferm, sy’n gadael effaith ddinistriol ar fusnes y fferm ac yn straen ar y teuluoedd hefyd.”

Mae Heddlu Dyfed Powys yn parhau i ymchwilio i’r mater, a dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddwas Gareth Thomas gan ddyfynnu’r cyfeirnod AA0/0711/29/09/2016/01/C.