Terry Jones yn seremoni BAFTA Cymru neithiwr Llun: BAFTA Cymru/ Rex Shutterstock
Tyrrodd rhai o sêr enwocaf Cymru i’r carped coch yng Nghaerdydd neithiwr ar gyfer seremoni BAFTA Cymru am gyfraniadau i ffilm a theledu.

Ymhlith yr enillwyr oedd Terry Jones o Fae Colwyn gafodd wobr am gyfraniad rhagorol i Ffilm a Theledu ac yntau’n adnabyddus am raglenni a ffilmiau Monty Python.

Fe ddaeth y wobr ychydig ddyddiau wedi cyheddiad na fyddai Terry Jones yn gwneud cyfweliadau bellach, oherwydd dementia.

Titanic

Yr artist colur Siân Grigg dderbyniodd wobr Sian Phillips, ac un o’r ffilmiau enwocaf iddi weithio arnyn nhw yw’r Titanic.

Mewn neges fideo arbennig iddi dywedodd Leonardo Di Caprio: “Mae wedi bod yn brofiad anhygoel gweithio gyda thi. Ni allaf feddwl am unrhyw un yn y byd sydd yn fwy haeddiannol o’r wobr hon. Rwyt ti yn wirioneddol ysbrydoledig ac rwy’n gobeithio gweithio gyda thi am 20 mlynedd arall.”


Yr artist colur Sian Grigg a enillodd wobr Sian Phillips, Llun: BAFTA Cymru/ Rex Shutterstock
Y gwobrau

Enillodd y ffilm ddogfen Mr Calzaghe ynghyd â’r ffilm Yr Ymadawiad dair gwobr yr un.

Mark Lewis Jones gipiodd gwobr yr Actor Gorau am Yr Ymadawiad a Mali Harries gipiodd yr Actores Orau am Y Gwyll.

Enillodd Tim Rhys Evans: All in the Mind ddwy wobr ar y noson, gyda Y Gwyll hefyd yn ennill gwobr y Ddrama Deledu orau.

Yn y categorïau rhaglenni ffeithiol, enillodd Rondo Media ddwy wobr ar gyfer Les Miserables – Y Daith i’r Llwyfan ac enillodd Côr Cymru – y Rownd Derfynol y categori Darllediad Byw Awyr Agored.

Cerddoriaeth a enillodd wobr y Gyfres Ffeithiol orau i’r cwmni Cymraeg Telesgop am raglen i BBC Four: Music for Misfits am gerddoriaeth roc annibynnol.

Will Millard enillodd wobr y Cyflwynydd Gorau ar gyfer Will Millard in Hunters of the South Seas, a BBC Cymru Wales enillodd y wobr Darllediadau’r Newyddion ar gyfer Argyfwng y Mudwyr a’r wobr Materion Cyfoes ar gyfer Life After April.

Y dyn camera o Aberystwyth a Chaerdydd, ac un o ffotograffwyr cynnar Golwg, Aled Jenkins oedd yr enillydd am y gwaith camera gorau ar gyfres y BBC am Batagonia, gyda Huw Edwards.

Dyma oedd y pumed flwyddyn ar hugain i wobrau BAFTA Cymru gael eu cynnal, a chyflwynydd y noson oedd DJ Huw Stephens.