Melin Llynnon (Llun: Wicipedia)
Mae un o gwmnïau Ynys Môn sy’n cynhyrchu seidr yn ymgyrchu i achub a defnyddio safle melin wynt.

Adrian a Janet Percival yw perchnogion cwmni Jaspels Cider Company, ac maen nhw wedi cyflwyno cais i Gyngor Sir Ynys Môn i symud eu prosiect seidr i felin wynt Melin Llynnon yn Llanddeusant.

Melin Llynnon, a agorodd yn 1775, yw’r unig felin wynt weithredol yng Nghymru sy’n cynhyrchu blawd gwenith cyflawn gan ddefnyddio gwenith organig.

Mae’r safle hefyd yn cynnwys dau dŷ crwn o’r Oes Haearn.

Mae’r cwpwl yn bwriadu lansio ymgyrch Kickstarter os ydyn nhw’n llwyddo i brynu’r les ar gyfer y safle.

Bwriad y Cyngor yw cau’r safle fel rhan o gynllun i arbed miliynau o bunnoedd.

Gallwch ddarllen rhagor am brosiect seidr Adrian a Janet Percival yn rhifyn bresennol Golwg.