Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth ar ôl i ddau feiciwr farw mewn gwrthdrawiad ar yr A40 ger Llanymddyfri fore Sul.

Cafodd yr heddlu eu galw toc cyn 12 o’r gloch i ardal rhwng Llanymddyfri a Halfway.

Bu farw’r ddau feiciwr yn y fan a’r lle, a chafodd gyrrwr a theithiwr y fan eu cludo i’r ysbyty.

Mae’r ffordd ynghau i’r ddau gyfeiriad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar 101.