Mae pump o bobol wedi cael eu harestio ar ôl i ddau gi ymosod ar blismyn yn Hwlffordd.

Cafodd pedwar o blismyn eu hanafu a’u cludo i’r ysbyty, ond cawson nhw eu rhyddhau’n ddiweddarach.

Digwyddodd yr ymosodiad brynhawn dydd Sadwrn.

Mae pedwar o bobol yn y ddalfa o hyd, ac mae dynes wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth.