Mae cynlluniau i gynnal marathon llawn yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf wedi cael eu dateglu.

Cymerodd 22,000 o bobol ran yn yr hanner marathon y bore ma, ond fe fydd y marathon cyntaf yn y brifddinas yn cael ei gynnal fis Ebrill nesaf.

Mae disgwyl i’r manylion llawn gael eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf, ond mae disgwyl y bydd yn cael ei gynnal cyn Marathon Llundain, ac fe allai’r cwrs gynnwys y brifddinas a rhannau o Fro Morgannwg.

Yn ôl trefnwyr yr hanner marathon, roedd dymuniad ymhlith athletwyr i gynnal marathon llawn.