Roedd y bocsiwr Mike Towell wedi bod yn dioddef pennau tost cyn yr ornest yn erbyn y Cymro Dale Evans a arweiniodd at ei farwolaeth.

Mae hyfforddwr Towell, Alex Morrison wedi datgelu y bu’n rhaid i un o’i sesiynau ymarfer ddod i ben yn gynnar wrth iddo baratoi ar gyfer yr ornest.

Dywedodd wrth y Sun on Sunday yn yr Alban nad oedd e wedi talu sylw i’r sefyllfa gan ei fod yn “edrych yn iawn”.

Ond fe ddywedodd ei fod e wedi cael cyngor i beidio paffio oherwydd ei ben tost.

Mae marwolaeth Towell wedi codi cwestiynau ynghylch diogelwch y gamp gan wleidyddion a meddygon.

Cafodd Towell ei gludo i’r ysbyty yn Glasgow lle bu farw toc ar ôl 11 o’r gloch fore dydd Gwener ar ôl bod ar beiriant cynnal bywyd.

Dydy Dale Evans ddim wedi gwneud sylw am farwolaeth ei wrthwynebydd hyd yn hyn.

Mae cronfa a gafodd ei sefydlu gan gyn-bencampwr y byd Ricky Hatton wedi codi dros £20,000 i deulu Towell.