Mae Bathodyn Glas anabledd ar gael i fwy o bobol o heddiw ymlaen wrth i’r cynllun gael ei ehangu i helpu rhai sy’n dioddef anaf neu salwch difrifol dros dro.

Fe fydd y rheiny sy’n gwella o driniaeth neu’n aros am driniaeth yn cael cynnig bathodynnau 12 mis i’w galluogi i gael y manteision parcio arferol.

Wrth gyhoeddi’r newid yn y cynllun, meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a’r Seilwaith:

“Mae cynllun y Bathodyn Glas yn chwarae rhan hollbwysig wrth wella mynediad i waith a gwasanaethau i bobol sydd ag anableddau ledled Cymru.

“Hyd yn hyn, mae wedi’i gyfyngu i bobol sydd â namau parhaol, tra bod nifer o bobol sydd ag anafiadau difrifol, dros-dro yn cael eu hystyried yn anghymwys.

“Mae ehangu pwy sy’n gymwys drwy gyflwyno’r bathodynnau dros-dro hyn yn sicrhau cysondeb a thegwch yn y ffordd y mae’r cynllun yn cael ei ddarparu ac mae’n golygu bod mwy o’r bobol sydd angen y Bathodyn Glas yn cael hawl i’w ddefnyddio.”

O dan y meini prawf newydd, mae’r Bathodyn Glas wedi ei gyfyngu ar gyfer pobol sydd â nam sydd wedi para am ddeuddeg mis neu fwy.