Paul Flynn AS (llun o'i wefan)
Mae Aelod Seneddol Casnewydd, Paul Flynn, wedi galw am dynhau rheolau bocsio ar ôl marwolaeth y bocsiwr Mike Towell neithiwr.

Mae cysgod arweinydd Tŷ’r Cyffredin wedi bod yn pwyso’n gyson am wahardd ergydion i’r pen, ac wedi cyflwyno mesurau preifat aflwyddiannus yn y Senedd yn 1998 a 2005 i geisio sicrhau hyn.

“Dw i’n meddwl y dylai pobl sylweddoli’r peryglon,” meddai’r gwleidydd 81 oed wrth ddisgrifio marwolaeth Mike Towell fel “trychineb ofnadwy”.

“Er bod llawer o beryglon mewn chwaraeon, yr enghraifft waethaf yw bocsio, gan mai’r holl ddiben yw gwneud y gwrthwynebydd yn anymwybodol.”

Dywed fod angen sylweddoli bod y pen yn rhan fregus iawn o’r corff, a bod angen newid rheolau llawer o chwaraeon er mwyn ei ddiogelu a lleihau’r nifer o ergydion i’r ymennydd.

“Fe  wyddon ni fod ergydion i’r pen yn achosi difrod cronnol mewn llawer o chwaraeon,” meddai. “Mae angen inni edrych ar y rheolau a sicrhau eu bod nhw’n llawer mwy diogel nag oedden nhw yn y gorffennol.”

Dywed mai’r broblem fwyaf yw’r “difrod anweledig i’r ymennydd” sy’n arwain at glefyd Alzheimer a dementia mewn bocswyr flynyddoedd yn ddiweddarach.