Adam Price (llun: Iolo Cheung)
Mae’r Aelod Cynulliad Adam Price wedi gofyn i Archwilydd Cyffredinol Cymru gynnal ymchwiliad manwl i’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru’n dyrannu grantiau i fusnesau.

Yn ei lythyr ato, dywed Adam Price ei fod yn bryderus am y nifer o gwmnïau a gafodd grantiau sy’n mynd yn fethdalwyr.

Dywed fod lle i amau pa mor ddibynadwy yw meini prawf a strategaeth bresennol y llywodraeth.

“Mae risg yn rhan anochel o unrhyw broses arloesi, ac ni fyddai’n iawn beio’r llywodraeth ar sail methiant masnachol yn unig,” meddai.

“Fodd bynnag, mae’r gyfres o achosion a gafodd sylw yn y cyfryngau’n ddiweddar yn awgrymu rhai themâu cyson sy’n gofyn am sylw pellach.”

Methiant

Dywed fod pryderon ynghylch rôl Gweinidogion wrth ddyrannu cymorth ariannol, gan anwybyddu barn eu hymgynghorwyr ar adegau.

“O’u hystyried gyda’i gilydd, mae’r achosion diweddar yn awgrymu ein bod yn gweld methiant yn y system yn hytrach na chyfres o gamgymeriadau di-gyswllt,” meddai.

“Dw i’n credu bod strategaeth gyffredinol Llywodraeth Cymru o ddyrannu cymorth ariannol i fusnesau yn gofyn am y math o ddadansoddiad manwl a chwbl wrthrychol na all neb ond Swyddfa Archwilio Cymru ei gyflawni.”