Mae gweithiwr gofal preswyl i blant wedi’i ddileu o’r Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol wedi iddo gyflawni tair trosedd wahanol.

Cynhaliwyd pwyllgor Cyngor Gofal Cymru ddydd Mercher i ystyried a oedd Richard Murray, a gyflogwyd gan Hafan Saff yn ardal Sir Gaerfyrddin, yn parhau i fod yn addas i weithio fel gofalwr plant yn dilyn ei gael yn euog o yfed a gyrru, ymosod ac achosi difrod troseddol.

Clywodd y gwrandawiad fod Richard Murray wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli ddwywaith yn 2015.

Yn yr achos llys cyntaf, cafwyd Murray yn euog o yrru o dan ddylanwad alcohol, ac yn yr ail achos, tri mis yn ddiweddarach, fe’i cafwyd yn euog o ymosod ac o achosi difrod troseddol.

Penderfynodd y Pwyllgor fod yr euogfarnau troseddol yn amharu ar addasrwydd Murray i ymarfer, ac nad oedd wedi dangos llawer o ddealltwriaeth, edifeirwch nac awydd i fynd i’r afael â’i ymddygiad.

Dywedodd cadeirydd y Pwyllgor, Islwyn Jones: “Nid oes unrhyw awgrym bod yr unigolyn cofrestredig wedi cyflawni ei droseddau yn ystod oriau gwaith neu eu bod wedi cael effaith uniongyrchol ar ddefnyddwyr gwasanaethau.

“Fodd bynnag, daeth y Pwyllgor i’r casgliad fod yr unigolyn cofrestredig wedi ymddwyn yn fyrbwyll a’i fod wedi arfer crebwyll gwael o dan ddylanwad alcohol ym mis Awst a mis Hydref 2015.

“Ni ellir honni, felly, bod ei ymddygiad yn ddigwyddiad unigryw.”

Penderfynodd y panel fod ymddygiad Murray yn mynd yn groes i sawl adran o’r Côd Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol, ac na allai’r cyhoedd fod â hyder yn ei allu i barhau yn ei swydd.