Mae gan y Cymry obsesiwn â chael eu hoffi ar gyfryngau cymdeithasol, yn ôl astudiaeth newydd gan British Telecom.

Ar gyfartaledd, mae pobol Cymru’n mynd ar eu cyfrifon Facebook, Twitter ac Instagram 18 gwaith y diwrnod ar ôl postio neges, er mwyn gweld yr ymateb.

Mae’n debyg bod dynion yn waeth na merched o ran eu hangen i gael ymateb, a’u bod yn disgwyl i 40 o bobol i hoffi eu neges, o gymharu â menywod sydd yn gobeithio cael 28.

Mae pobol erbyn hyn yn treulio bron i ddwy awr bob dydd yn postio negeseuon, lluniau a fideos ar eu cyfrifon ar-lein.

Yn ôl y gwaith ymchwil, mae merched yn cymryd tua wyth munud i greu ac ysgrifennu neges, ac mae dynion yn treulio deng munud.

Mae’n naw munud arall i ddewis y llun iawn, a’r ffilter gorau cyn ei roi ar gyfrif cymdeithasol fel Instagram.

Ar gyfartaledd, mae dynion yn edrych am ymateb i’w negeseuon bob munud am 19 munud a menywod unwaith bob munud am chwarter awr.

Roedd 58% o Gymry yn credu bod cael cydnabyddiaeth ar-lein yn “bwysig” ac fe gyfaddefodd 45% eu bod yn genfigennus o bobol eraill sy’n cael ymateb gwell i’w negeseuon.

Peidio colli cysylltiad â’r byd go iawn

Yn ôl y seicolegydd Becky Spelman, dyw hi ddim yn syndod bod dynion yn dibynnu’n fwy ar ymatebion ar-lein na menywod, am eu bod â llai o “rwydweithiau cymdeithasol” a “chysylltiadau emosiynol yn y byd go-iawn”.

“Mae ymateb yn arwynebol wrth ‘hoffi’ post yn rhywbeth diniwed o’i hunan, ond wrth ryngweithio ar gyfryngau cymdeithasol mae angen bod yn ofalus na fydd pobl yn anghofio cysylltiadau gwirioneddol gyda ffrindiau ac aelodau’r teulu,” ychwanegodd.

“Buaswn yn argymell cyfyngu ffrindiau ar gyfryngau cymdeithasol i bobl byddwch yn cyfathrebu gyda nhw ac yn adnabod yn iawn, yn hytrach na rhywun sy’n anfon cais i fod yn ffrind. Mae cyfryngau cymdeithasol yn gweithio fe arfau cyfathrebu nid fel ffordd o asesu ein hunanwerth.”

38% yn teimlo “siom”

Erbyn hyn, mae 85% ohonom yn treulio llawer o’n hamser ar gyfryngau cymdeithasol yn ein cartrefi, gyda mwy o bwysau am ymateb i’r negeseuon byddwn yn eu cyhoeddi.

Os na fydd rhywun yn hoffi neu’n rhannu negeseuon, dywedodd 38% eu bod yn teimlo “siom”, ac 17% yn teimlo nad oes ganddyn nhw ffrindiau. Roedd 16% yn dweud eu bod yn teimlo’n ansicr, a’r 14% yn “dwp”.

Mae 45% wedi dileu rhywbeth o’u cyfrifon ar-lein os na fyddan nhw wedi cael ymateb, gyda dynion yn fwy tebygol o wneud hynny – 49%.

O gael ymateb positif ar-lein, dywedodd 44% eu bod yn teimlo’n “hapus”, 29% yn teimlo eu bod “wedi’u cydnabod” a 27% yn teimlo’n “boblogaidd a gwerthfawr.”

Fe gafodd tua 2,000 o bobol rhwng 18 a 40 eu holi ar gyfer yr arolwg.