Lee Simmons a Zoe Morgan
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi’i gyhuddo o lofruddio dau gariad, a gafodd, mae’n debyg, eu trywanu y tu allan i’r siop roedden nhw’n gweithio.

Cafwyd hyd i Zoe Morgan, 21, a Lee Simmons, 33, ger y siop, Matalan, yng nghanol dinas Caerdydd bore dydd Mercher.

Mae Andrew Patrick Saunders, 20, o Gas-bach, Gwent, wedi’i gyhuddo o’u llofruddio.

Yn y llys yng Nghaerdydd, fe wnaeth Saunders gadarnhau ei enw, ei oedran a’i gyfeiriad cyn cael ei anfon yn ôl i’r ddalfa.

Yn y cyfamser, mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio ac mae swyddogion arbenigol yn helpu’r teuluoedd.

Roedd Zoe Morgan yn gweithio yn y siop ar Stryd y Frenhines fel gwisgwraig ffenestri ac roedd Lee Simmons yn weithiwr siop.

“Gadael twll anferth”

Neithiwr fe ddywedodd teulu Zoe Morgan ei bod yn “ferch, chwaer, wyres a modryb hyfryd a fyddai’n gwneud unrhyw beth i unrhyw un”.

Mewn datganiad, dywedodd y teulu bod ei marwolaeth wedi “gadael twll anferth yn ein bywydau na fydd byth yn cael ei lenwi”.

Mae’n debyg bod Zoe Morgan a Lee Simmons wedi bod yn caru ers pedwar mis.

Cafwyd hyd i’w cyrff ar Stryd y Frenhines am tua 5:50 y bore ar ddydd Mercher, 28 Medi. Mae blodau i’w gweld y tu allan i siop Matalan lle cafwyd hyd i’r ddau.

Gwrandawiad nesaf

Bydd Andrew Saunders yn ymddangos gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun, 3 Hydref.