Byddai twnnel i gario ceblau trydan o atomfa’r Wylfa Newydd i’r tir mawr dan y Fenai yn costio £100 miliwn ac yn cymryd pum mlynedd i’w gwblhau.
Cyhoeddodd y Grid Cenedlaethol gynlluniau cychwynnol i osod ceblau tanddaearol dan Afon Menai yn hytrach na defnyddio peilonau i gynnal y cysylltiad trydan nôl ym mis Mehefin.
Roedd sawl un, gan gynnwys Cyngor Môn, yn gwrthwynebu cynnig y Grid Cenedlaethol i osod peilonau ar yr ynys i gysylltu safle Wylfa Newydd.
Dywedodd Aled Rowlands o’r Grid Cenedlaethol wrth y BBC eu bod am ddefnyddio’r un math o dechnoleg ag sy’n cael ei ddefnyddio i anfon trydan o dan yr Afon Tafwys yn Llundain, i fynd o dan y Fenai.
Ychwanegodd ei fod yn credu y bydd y twnnel 4 cilomedr o hyd yn cymryd tua phum mlynedd i’w gwblhau ac yn costio tua £100 miliwn.
1 cilomedr arall
Yn gynharach y mis hwn fe wnaeth Siân Gwenllïan a Hywel Williams, Aelod Cynulliad ac Aelod Seneddol Arfon, bwyso ar y Grid Cenedlaethol i beidio â chodi peilonau i gynnal y cysylltiad trydan rhwng glannau Menai yng Ngwynedd a’r is-orsaf ym Mhentir, Arfon.
Maen nhw’n dadlau nad yw gosod peilonau ar gyfer cysylltiad trydan tua 1 cilomedr o hyd yn gwneud synnwyr ac mae disgwyl i’r Grid gyhoeddi ym mis Hydref a ydyn nhw’n ffafrio peilonau neu geblau tanddaearol ar gyfer y cilomedr olaf.