Tai rhad Cymru (Welshleprechaun CCA 1.0)
Mae ffigurau newydd am brisiau tai wedi tanlinellu’r gwahaniaethau anferth rhwng rhannau o wledydd Prydain, gyda Chymru ar y gwaelod.

O’r holl dai sydd werth mwy na £1 miliwn, dim ond un o bob 400 sydd yng Nghymru, tra bod 328 o bob 400 yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr.

Yn ôl gwefan dai Zoopla, mae mwy na 40,800 yn rhagor o dai wedi croesi trothwy’r £1 miliwn eisoes eleni, i ddod â’r cyfanswm trwy wledydd Prydain i bron 661,000.

Dim ond 1,654 o’r rheiny sydd yng Nghymru, yn ôl y wefan.

Y strydoedd drud

Mae’r wefan hefyd wedi cyhoeddi rhestr o’r strydoedd druta’ yng ngwledydd Prydain ac mae pob un o’r deg ucha’ yn Llundain.

Yn un stryd, Kensington Palace Gardens, cyfartaledd pris y tai yw £38.25 miliwn.

Yn yr ail stryd, The Boltons, mae’r cyfartaledd tros £33 miliwn.